Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2020
Amser: 08.45
– 12.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6402
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Llyr Gruffydd AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru Nicola Davies, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Steve Hughson, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Syr David Henshaw, Cyfoeth Naturiol Cymru Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor a chafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AS.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Sesiwn dystiolaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru: effaith cyllideb atodol Llywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw a Clare Pillman, Cyfoeth Naturiol Cymru.
3 COVID-19: Sesiwn graffu gyda Llywodraeth Cymru
3.1 Bu’r Aelodau yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am Covid-19 a’i effaith ar y sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid, ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig.
4 COVID-19: Parhau gyda sesiwn graffu Llywodraeth Cymru
4.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion.
5 COVID-19:Sesiwn dystiolaeth: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nicola Davies a Steve Hughson, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU 2019-21
6.2 Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU 2019-21
6.3 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Reoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2018
6.4 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Ailfeddwl am fwyd a diod yng Nghymru
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 and 5
8.1Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2,3,4 a 5.
8.2 Cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn graffu.
9Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.